Eich rhwydwaith chi yw RhBG ac rydym eisiau sicrhau ei fod yn adlewyrchu eich anghenion. Ein prif nod yw “Cysylltu Pobl Busnes”. Cofrestrwch nawr fel y gallwch gysylltu â phobl busnes eraill yng Ngwynedd. Efallai eich bod yn colli amryw o gyfleoedd ar hyn o bryd, felly cofrestrwch a gadewch i bobl wybod am eich cwmni. Ac nid dyna’r cwbl – mae cyfoeth o wybodaeth ar y safle hwn i helpu eich busnes ddod yn fwy llwyddiannus fyth.
Mae'r safle'n cynnwys:
Digwyddiadau- a gynhelir ledled Gogledd Cymru ac sydd wedi eu trefnu gan RhBG a sefydliadau eraill. Gallwch hefyd bostio manylion am eich lansiad cynnyrch a newyddion.
Ydych chi'n chwilio am gyflenwr lleol? Ewch i'r dudalen Rhestr o Aelodau.
Hoffech chi gael cymorth gyda phroblem fusnes neu ydych chi’n chwilio am wybodaeth? Ewch i'r cysylltiadau cefnogi busnes yn cynnwys nifer o linciau defnyddiol.
Datganiadau i’r wasg, newyddion ac adolygiadau - cewch wybod beth sy’n mynd ymlaen yn y byd busnes.
Oriel – ffotograffau o ddigwyddiadau RhBG a gweithgareddau busnes eraill. Anfonwch eich newyddion a'ch lluniau i ni.
Beth yw’r dyfodol i fusnesau yng Ngwynedd? Lleisiwch eich barn a chymerwch ran mewn arolygon a holiaduron yn rheolaidd.
Oes gennych chi gwyn neu broblem fusnes? Gallwch fwrw eich bol ar y Bwrdd Negeseuon.
Wrth fod yn aelod cewch fynediad at wybodaeth ar gyfer “Aelodau’n Unig”.
Mae’r aelodaeth yn rhad ac am ddim felly COFRESTRWCH NAWR
Bwrdd Cyfarwyddwyr RhBG
Ffurfiwyd RhBG fel cwmni cyfyngedig trwy warant ac mae'r Bwrdd ar hyn o bryd yn cynnwys saith cyfarwyddwr:
Cyfarwyddwyr
John Lloyd Inigo Jones a’i Gwmni Cyf Y Groeslon
Gill Richards MBE Atebion Recruitment Cyf Bangor
John Morris J Morris Consultancy Barmouth
Wyn Roberts Marchnata Aqua Caernarfon
Samantha Evans Mwnci Bach Blaenau Ffestiniog
Gwyn Jones Oriel Plas Glyn-y-Weddw Llanbedrog
Sian M Williams Griffith, Williams a'i Gwmni Pwllheli