Nid yw'n hawdd rhedeg busnes, ond mae llawer o gefnogaeth ar gael i'ch helpu - os gwyddoch lle i chwilio amdani! Mae’r adran hon ar y safle yn rhoi cysylltiadau gwefannau defnyddiol sy’n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth busnes. Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth berthnasol, neu os gwyddoch am adnoddau a fyddai'n ddefnyddiol i aelodau eraill, anfonwch ebost atom neu ddefnyddio'r ffurflen gysylltu.
Mae Partneriaeth Economaidd Gwynedd (PEG) yn gyfrifol am oruchwylio a chydlynu gweithgaredd datblygiad economaidd ac mae’n cadw llygad ar Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd sy’n weithredol yng Ngwynedd, gan gynnwys y Rhaglen Gydgyfeirio. Mae Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd yn darparu canllawiau ar gyfer PEG a’r adran yw Ysgrifenyddiaeth y Bartneriaeth. Mae aelodaeth PEG yn agored i unigolion sy’n byw neu’n gweithio yng Ngwynedd a sefydliadau sydd â diddordeb yn yr ardal. Ar hyn o bryd mae mwy na 100 o aelodau. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan Cyngor Gwynedd: http://www.gwynedd.gov.uk
Is-Grŵp Busnes PEG yw Tîm Rheoli Gwynedd ac mae’n cael ei gydlynu gan Gyngor Gwynedd. Y bwriad yw bod y grŵp yn goruchwylio gweithgaredd datblygiad economaidd o fewn y Sir. Mae gan RhBG ddau gynrychiolydd ym mhob cyfarfod.
Bwrdd Cyfarwyddwyr RhBG
Ffurfiwyd RhBG fel cwmni cyfyngedig trwy warant ac mae'r Bwrdd ar hyn o bryd yn cynnwys saith cyfarwyddwr:
Cyfarwyddwyr
John Lloyd Inigo Jones a’i Gwmni Cyf Y Groeslon
Gill Richards MBE Atebion Recruitment Cyf Bangor
John Morris J Morris Consultancy Barmouth
Wyn Roberts Marchnata Aqua Caernarfon
Samantha Evans Mwnci Bach Blaenau Ffestiniog
Gwyn Jones Oriel Plas Glyn-y-Weddw Llanbedrog
Sian M Williams Griffith, Williams a'i Gwmni Pwllheli