Croeso i wefan Rhwydwaith Busnes Gwynedd (RhBG)
Grwp o berchnogion a gweithredwyr busnes yw'r Rhwydwaith a ffurfiwyd yng Ngwynedd i ddarparu fforwm ar gyfer pob busnes yn y sir er mwyn:
Rhwydweithio a rhyng-fasnachu;
Cyfathrebu â sectorau eraill (cyhoeddus ac academaidd);
Adnabod a datrys problemau sy’n wynebu busnesau yn yr ardal.
Mae aelodaeth yn ddi-dâl ac yn agored i bob cwmni sydd â safle busnes yng Ngwynedd. Rydym yn eich annog i Gofrestru er mwyn dod yn aelod fel y bydd gennych fynediad llawn i holl adrannau’r safle, yn cynnwys y Rhestr o Aelodau a’r Fforwm. Gallwch hefyd ddewis derbyn diweddariadau e-bost a fydd yn rhoi gwybod ichi am ddigwyddiadau, cyfarfodydd, newyddion a chymorth busnes. Mae croeso ichi bori drwy’r safle i weld pa ddigwyddiadau a gynhelir yn fuan yng Ngogledd Cymru ac er mwyn darganfod mwy amdanom ni a’r adnoddau busnes sydd ar gael ichi.
Os bydd gennych unrhyw awgrymiadau neu sylwadau ar y safle hwn, neu’r rhwydwaith yn gyffredinol, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
Bwrdd Cyfarwyddwyr RhBG
Ffurfiwyd RhBG fel cwmni cyfyngedig trwy warant ac mae'r Bwrdd ar hyn o bryd yn cynnwys saith cyfarwyddwr:
Cyfarwyddwyr
John Lloyd Inigo Jones a’i Gwmni Cyf Y Groeslon
Gill Richards MBE Atebion Recruitment Cyf Bangor
John Morris J Morris Consultancy Barmouth
Wyn Roberts Marchnata Aqua Caernarfon
Samantha Evans Mwnci Bach Blaenau Ffestiniog
Gwyn Jones Oriel Plas Glyn-y-Weddw Llanbedrog
Sian M Williams Griffith, Williams a'i Gwmni Pwllheli